Strategic Communications Officer / Swyddog Cyfathrebu Strategol
- Recruiter
- Cardiff Foodbank
- Location
- Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- £31,350 (£36,575 FTE) per year
- Posted
- 11 Oct 2024
- Closes
- 10 Nov 2024
- Sector
- Charity Support, Poverty Relief
- Role
- Communications
- Contract type
- Fixed Term
About Cardiff Foodbank
Our vision is that no one in Cardiff goes hungry. We provide food and practical support to people in need. We work across Cardiff with organisations and decision-makers to influence change to enable people to get the support they need when they need it and to address the local drivers of poverty.
In 2022/23 we provided over 20,000 emergency food parcels to people in need, and we are seeing the need continuing to increase. We are a team of eight staff and over 200 volunteers. Together, we are a dedicated and passionate team, committed to supporting people living in Cardiff by providing emergency food and support to not need us again.
We’re looking for someone who is passionate and driven to join our team to enable us to deliver our new, ambitious five-year strategy as we work towards our vision that no one in Cardiff goes hungry.
About the role
We’re looking for a Strategic Communications Officer to join our team. In this exciting, newly created role, you will have a key role to play in overseeing, planning and delivering our communications to different audiences across our various comms channels that will support and enable the delivery of our ambitious organisational strategy.
Salary: £31,350 (£36,575 FTE)
Contract details: 3 year fixed term contract, part time 30 hours per week
Location: This role will be based at Cardiff Foodbank’s Office/Warehouse. Occasional home working is available and flexibility will be needed to attend meetings across Cardiff and occasional evening and weekend working.
About you
You’ll have:
- Demonstrable experience of implementing communication strategies
- Excellent written and verbal communication skills, for example: copywriting; ability to brief and manage external suppliers; curating social media content
- Excellent influencing skills and the capability to work collaboratively and lead cross-organisational projects
- Ability to communicate complex issues clearly to all audiences and in different formats
- Excellent attention to detail and a desire to always improve
- Ability to use databases and analyse data to plan and evaluate activity and measure the effectiveness of channels and communications
- A tenacious and enthusiastic approach and the ability to embrace, develop and shape a new role. You’ll be well organised, proactive, and a self-starter who is able to self-motivate to plan, prioritise and manage your workload
Why work for us
- 28 days annual leave a year plus bank holidays (pro rata for part-time staff)
- 5% employer pension contributions
- 3 volunteering days a year
- Membership and support from the Comms Creatives Academy in year one with the possibility of extending
- Work for an accredited living wage employer
- Work for an organisation committed to tackling poverty
How to find out more and apply
We welcome applications that reflect the diversity of the communities we serve. We welcome applications from people with lived experience of poverty including if you’ve received support from Cardiff Foodbank.
For more information about the role, how to find out more and how to apply, please download our application pack.
Closing date: Sunday 3rd November at midnight
Interviews: Monday 18th November
Ynglŷn â Banc Bwyd Caerdydd
Ein gweledigaeth yw nad oes unrhyw un yng Nghaerdydd yn mynd yn newynog. Rydym yn darparu bwyd a chymorth ymarferol i bobl mewn angen. Rydym yn gweithio ar draws Caerdydd gyda sefydliadau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddylanwadu ar newid er mwyn galluogi pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt ac i fynd i’r afael ag ysgogwyr tlodi lleol.
Yn 2022/23, darparwyd dros 20,000 o barseli bwyd brys i bobl mewn angen, ac rydym yn gweld yr angen yn parhau i gynyddu. Rydym yn dîm o wyth aelod o staff a thros 200 o wirfoddolwyr. Gyda’n gilydd, rydym yn dîm ymroddedig ac angerddol, sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n byw yng Nghaerdydd drwy ddarparu bwyd a chymorth brys i sicrhau nad oes angen ein gwasanaeth ar unrhyw un am yr eildro.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n angerddol ac yn llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm i'n galluogi i gyflawni ein strategaeth bum mlynedd newydd ac uchelgeisiol wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth nad oes unrhyw un yng Nghaerdydd yn mynd yn newynog.
Gwybodaeth am y rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Strategol i ymuno â'n tîm. Yn y swydd newydd, gyffrous hon, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth oruchwylio, cynllunio a chyflwyno ein negeseuon ar draws gwahanol sianeli cyfathrebu. Bydd y rhain yn ein cefnogi a’n galluogi i gyflawni ein strategaeth sefydliadol uchelgeisiol.
Cyflog: £31,350 (£36,575 FTE)
Manylion cytundeb: Cytundeb cyfnod penodol o 3 blynedd, rhan amser 30 awr yr wythnos
Lleoliad: Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn Swyddfa/Warws Banc Bwyd Caerdydd. Mae gweithio gartref yn achlysurol ar gael a bydd angen hyblygrwydd i fynychu cyfarfodydd ledled Caerdydd a gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.
Amdanoch chi
Bydd gennych chi:
- Profiad amlwg o roi strategaethau cyfathrebu ar waith
- Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu ardderchog – er enghraifft: y gallu i ysgrifennu copi; briffio a rheoli cyflenwyr allanol, a churadu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- Sgiliau ardderchog o ran dylanwadu a’r gallu i gydweithio ac arwain prosiectau ar draws y sefydliad
- Y gallu i gyfleu materion cymhleth yn glir i bob cynulleidfa ac mewn gwahanol fformatau
- Y gallu i roi sylw i fanylion ac i fod yn awyddus i wella bob amser
- Y gallu i ddefnyddio cronfeydd data ac i ddadansoddi data i gynllunio a phwyso a mesur gweithgaredd. Dylech allu mesur effeithiolrwydd sianeli a chyfathrebiadau hefyd
- Agwedd ddygn a brwdfrydig a’r gallu i gofleidio, datblygu a siapo rôl newydd. Dylech fod yn berson trefnus a rhagweithiol sy’n gallu ysgogi ei hun i gynllunio, blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith
Pam ddylech weithio i ni
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
- 5% o gyfraniadau pensiwn cyflogwr
- 3 diwrnod gwirfoddoli y flwyddyn
- Aelodaeth a chymorth gan y Comms Creatives Academy ym mlwyddyn un gyda'r posibilrwydd o ymestyn
- Gweithio i gyflogwr cyflog byw achrededig
- Gweithio i sefydliad sydd wedi ymrwymo i drechu tlodi
Sut i ddarganfod mwy a gwneud cais
Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad byw o dlodi gan gynnwys os ydych wedi cael cymorth gan Fanc Bwyd Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, sut i ddarganfod mwy a sut i wneud cais, lawrlwythwch ein pecyn cais.
Dyddiad cau: Dydd Sul 3ydd o Dachwedd am hanner nos.
Cyfweliadau: Dydd Mercher, 20fed o Dachwedd