Administrator at Cardiff Foodbank - Gweinyddwr ym Manc Bwyd Caerdydd

Location
Cardiff (Caerdydd)
Salary
£24,558 FTE (£19,296 actual) per year
Posted
02 Sep 2024
Closes
22 Sep 2024
Contract type
Fixed Term

Location: This new role is based at the main office of the Cardiff Foodbank in Cardiff Bay Business Centre. Some travel within Cardiff and South Wales may be required.

Salary: £24,558 FTE (£19,296 actual) per year
Hours: Part time (27.5 hours per week, Monday to Friday covering the core office hours of 9:30am to 1:30pm. The role will involve some late afternoon/evening working every other month)
Contract: 2 year fixed term

Are you passionate about supporting your community and making a positive impact? Join our dedicated team as Administrator and play a significant part in working towards Cardiff Foodbank's vision that no one in Cardiff goes hungry.

We're looking for someone with excellent communication skills who can work under pressure and within deadlines. If you're a self-motivated team player with a knack for keeping things organised, we want to hear from you.  In this vital role, you will provide full reception and administrative support to all the services provided by Cardiff Foodbank.

Working with the Administration Manager, you will provide reception and administration support across Cardiff Foodbank, which enables effective and efficient operation of the charity. 

ABOUT YOU
We are looking for someone with:

  • Excellent communication and interpersonal skills.
  • Ability to work well within a team.
  • Strong organisational and coordination skills.
  • Ability to multitask and work in a fast changing environment.
  • Attention to detail.
  • Proficiency in using computer systems and software for database management and communication purposes - especially MS Office (including Publisher) and Google Business Suite. 
  • A commitment to the work of the Cardiff Foodbank.
  • Welsh language skills desirable.

Cardiff Foodbank is a charity that is founded on and shaped by Christian principles. Our values of Kindness, Fairness, Gratitude and Respect are central to all that we do. We are an inclusive organisation and welcome people of all faiths and none who align with these values. We welcome applications that reflect the diversity of the communities we serve.

For an informal chat about the role, please contact Sara Redwood, Administration Manager on sara@cardiff.foodbank.org.uk or 02920484120 between 09.30-13.30 Monday to Thursday

Closing date: Midnight on Sunday 22nd September
Interviews: Wednesday 2nd October


Lleoliad: Lleolir y swydd newydd hon ym mhrif swyddfa Banc Bwyd Caerdydd yng Nghanolfan Fusnes Bae Caerdydd. Efallai y bydd angen rhywfaint o deithio o fewn dinas Caerdydd a de Cymru.

Cyflog: £24,558 CALl (£19,296 mewn gwirionedd) y flwyddyn
Oriau: Rhan-amser (27.5 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn cynnwys yr oriau swyddfa craidd o 9:30am i 1:30pm. Bydd y swydd yn cynnwys rhywfaint o weithio yn y prynhawn/gyda'r nos bob yn ail fis)
Cytundeb: Cyfnod penodol o 2 flynedd

A ydych chi'n angerddol am gefnogi eich cymuned a chael effaith gadarnhaol? Ymunwch â'n tîm ymroddedig fel Gweinyddwr a chwarae rhan bwysig mewn gweithio tuag at weledigaeth Banc Bwyd Caerdydd o sicrhau nad oes neb yng Nghaerdydd yn mynd heb fwyd.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu ardderchog a all weithio dan bwysau ac o fewn terfynau amser. Os ydych chi'n chwaraewr tîm hunangymhellol gyda dawn am gadw pethau'n drefnus, rydym am glywed gennych chi.  Yn y swydd hollbwysig hon, byddwch yn darparu cymorth derbynfa a gweinyddol llawn i'r holl wasanaethau a ddarperir gan Fanc Bwyd Caerdydd.

Gan weithio gyda’r Rheolwr Gweinyddol, byddwch yn darparu cymorth derbynfa a gweinyddol ar draws Banc Bwyd Caerdydd, sy’n galluogi gweithrediad effeithiol ac effeithlon yr elusen.

AMDANOCH CHI
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Y gallu i weithio'n dda mewn tîm.
  • Sgiliau trefnu a chydlynu cryf.
  • Y gallu i wneud sawl tasg ar yr un pryd a gweithio mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
  • Sylw i fanylion.
  • Hyfedredd mewn defnyddio systemau cyfrifiadurol a meddalwedd at ddibenion rheoli cronfeydd data a chyfathrebu – yn enwedig MS Office (gan gynnwys Publisher) a Google Business Suite.
  • Ymrwymiad i waith Banc Bwyd Caerdydd.
  • Sgiliau Cymraeg yn ddymunol.

Mae Banc Bwyd Caerdydd yn elusen sydd wedi’i seilio ar egwyddorion Cristnogol ac wedi’u llunio ganddynt. Mae ein gwerthoedd, sef Caredigrwydd, Tegwch, Diolchgarwch a Pharch, yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym yn sefydliad cynhwysol ac yn croesawu pobl o bob ffydd a di-ffydd sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd hyn. Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sara Redwood, Rheolwr Gweinyddol, ar sara@cardiff.foodbank.org.uk neu 02920484120 rhwng 09.30-13.30 dydd Llun i ddydd Iau.

Dyddiad cau: Canol nos ar ddydd Sul 22ain o Fedi
Cyfweliadau: Dydd Mercher 2ail o Hydref